Songtexte.com Drucklogo

Ar y Mimosa Songtext
von Dafydd Iwan

Ar y Mimosa Songtext

Ar y Mimosa

(Cytgan)
Ar y Mimosa
Ar y Mimosa
Cawn hwylio yn rhydd
I′r Gymru a fydd
Yn Wladfa ymhell dros y byd

Codwn yr hwyliau
Tynnwch y rhaffau
Ffarwel fo i'n ffrindiau i gyd
Daliwn y gwyntoedd
Hwyliwn dros foroedd
Daeth yn amser i newid ein fyd

Llifodd y dagrau
I lawr dros ein gruddiau
Wrth droi cefn ar hen bwthyn fy nhad
Ond yn fy nghalon
Mae tanbaidd obeithion
Y fydd terfyn ar ormes a brad


Ar y Mimosa...

Ffarwel i Walia,
Y gân a chwedleua
A ffarwel fo i Arglwydd y Plas
Cadw dy gyflog,
Ni raid crafu am geiniog
A′r dyfyn y chwarel na ffâs

Rhown ein hwynebau
I gyfeiriad y golau
Cawn fyw yn y Gymru Gymraeg
Cloddiwn sylfeini
A chasglwn y meini
A chodwn ein tŷ ar y graig

A chawn ni ryddid
A chawn ni wynfyd
Gwireddir ein breuddwyd cyn hir
Rhown gefn ar y gormes
A'r erlid anghynnes
Cawn Gymru o'r newydd, fe hawliwn ein tir.

Ar y Mimosa...

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Dafydd Iwan

Quiz
Wer singt das Lied „Haus am See“?

Fans

»Ar y Mimosa« gefällt bisher niemandem.