Songtexte.com Drucklogo

Carlo Songtext
von Dafydd Iwan

Carlo Songtext

La-la, la-la, la-la-la
La-la, la-la, la-la

Mae gen i ffrind bach yn byw ym Muckingham Palas
A Charlo Windsor yw ei enw ef
Tro d′wethaf es i, i gnocio ar ei ddrws ei dy
Daeth ei Fam i'r drws a medde hi wrthof i

O, Carlo, Carlo, Carlo′n warae polo heddi, heddi
Carlo, Carlo, Carlo'n warae polo gyda Dadi, Dadi
Ymunwch yn y gân, trigolion fawr a mân
O'r diwedd mae gynon ni ′Brins′ yn ngwlad y gân

Fe gafodd ei addysg draw yng ngwlad Awstralia
Ac yna lan i Scotland yr aeth o
Colofn y diwylliant Cymraeg, cyfrannwr i Dafod y Ddraig
Aelod o'r Urdd, gwersyllwr er cyn cof


O, Carlo, Carlo, Carlo′n warae polo heddi, heddi
Carlo, Carlo, Carlo'n warae polo gyda Dadi, Dadi
Ymunwch yn y gân, trigolion fawr a mân
O′r diwedd mae gynon ni 'Brins′ yn ngwlad y gân

Bob wythnos mae e'n darllen Y Cymro a'r Faner
Yn darllen Dafydd ap Gwilym yn ei wely bob nos
Mae dyfodol y wlad a′r iaith yn agos at ei galon fach ef
Y mae′n fwy o genedlaetholwr na'r FWA

O, Carlo, Carlo, Carlo′n warae polo heddi, heddi
Carlo, Carlo, Carlo'n warae polo gyda Dadi, Dadi
Ymunwch yn y gân, trigolion fawr a mân
O′r diwedd mae gynon ni 'Brins′ yn ngwlad y gân

O ie, Carlo, Carlo, Carlo'n warae polo heddi ie, heddi
Carlo, Carlo, Carlo'n warae polo gyda Dadi ie, Dadi
Ymunwch yn y gân, daiogion fawr a mân
O′r diwedd mae gynon ni ′Brins' yn ngwlad y gân

La-la, la-la, la-la,la
La-la, la-la, la-la
Jetzt Songtext hinzufügen

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Dafydd Iwan

Quiz
Wer ist gemeint mit „The King of Pop“?

Fans

»Carlo« gefällt bisher niemandem.