Songtexte.com Drucklogo

Duwies y Dre Songtext
von Carwyn Ellis & Rio 18

Duwies y Dre Songtext

A ydw i′n gweld
Neu ydw i'n breuddwydio
Y ferch yna
Y hyfryta

Ti′n gwybod beth?
Sgipiodd nghalon i guriad
Pan welais hi
Yn cerdded heibio fi

Mae'n gwneud i'r geiriau hyn
I deimlo′n ddiystyr
Duwies y dre
Duwies y dre


Mae′n anodd
I ganolbwyntio
Ar unrhywbeth
Mae'i mor brydferth

Mae pob peth
Amdani′n berffaith
Sdim byd o'i le
Gyda duwies y dre

Dyw canu′r alaw hyn
Ddim yn camharu â hi
Duwies y dre
Duwies y dre

A pwy 'dy′r un mor lwcus?
A mor ffodus i fod 'da hi?
Mae'n rhaid bod nhw′n rhyw fath o dduw
I fod ′da un fel hi


Yn ôl y sôn
Mae ganddi gariad
Yn ôl y sôn
Yn ôl y sôn

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Carwyn Ellis & Rio 18

Quiz
Wer ist gemeint mit „The King of Pop“?

Fans

»Duwies y Dre« gefällt bisher niemandem.