Songtexte.com Drucklogo

Daeth Neb yn Ôl Songtext
von Meic Stevens

Daeth Neb yn Ôl Songtext

Roedd pawb ar y cei yn Aberdaugleddau
Yn oer ac yn wlyb yn y gwynt a′r glaw man
Llusgodd y llynges i ffwrdd fel cysgodion
A'r cefnfor mawr o′u blaen

CYTGAN
Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd ei gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y llongwyr yn llosgi mewn tân

Morgi o ddur yn cuddio mewn dyfnder
Ei arfau yn gas fel dant yn ei ben
Deffrodd o'i gwsg a chododd o'r gwaelod
I aros am aberth dan leuad y nen.

CYTGAN
Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd ei gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y morwyr yn llosgi mewn tân


Yng nghanol y mor daeth taran a fflamau
Torpidos gwyllt yn rhuthro trwy′r dwr
A thrist roedd y lladdfa gyffrous mewn tywyllwch
A thrist roedd y byd mewn rhyfel a′u stwr

CYTGAN
Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd ei gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y morwyr yn llosgi mewn tân

Rhy hwyr ger y harbwr mae'r mamau yn aros
Mae′r gwragedd yn aros heb wybod y gwir
Ond ymhell oddi yna dan môr y gorllewin
Gorweddant yn farw dan fedd gwyrdd y dwr

CYTGAN
Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd ei gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y morwyr yn llosgi mewn tân

Amddifaid bychain ble gewch chi gysur?
Lle yn y byd gewch chi arian i fyw?
O'r llywodraeth fe gewch chi geiniogau cysurus
I dalu am eich tadau sydd nawr gyda Duw.


CYTGAN
Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd ei gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y morwyr yn llosgi mewn tân

Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd ei gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y morwyr yn llosgi mewn tân

Tom Cartwright

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Meic Stevens

Quiz
Welcher Song kommt von Passenger?

Fans

»Daeth Neb yn Ôl« gefällt bisher niemandem.