Songtexte.com Drucklogo

Ysbryd Y Nos Songtext
von Edward H. Dafis

Ysbryd Y Nos Songtext

Pan ddaw lleisiau′r nos i 'mhoeni,
A sibrwd gwag y gwynt i′m hoeri,
Ti sy'n lliwio'r blode
A mantell gwlith y bore;
Tyrd, Ysbryd y Nos.

A′r tonnau′n llusgo'r cregyn arian
I siffrwd yn ei lifrai sidan,
Mi wn y byddi yno
Yn barod i′m cysuro;
Tyrd, Ysbryd y Nos.

Ysbryd y Nos, tyrd yma'n awr,
Gwasgara′r ofnau cyn daw'r wawr;
Diffodd y t′wyllwch, tyrd a'r dydd:
Gad im ddod o'r nos yn rhydd.


Pleth dy wallt mewn rhuban euraidd
Yn gynnes yn dy olau peraidd,
A bysedd brau y barrug
Yn deffro hun y cerrig;
Tyrd, Ysbryd y Nos.

Ysbryd y Nos, rho d′olau mwyn,
Ysbryd y Nos, rho im dy swyn,
Ysbryd y Nos, fel angel y dydd,
Ysbryd y Nos, enaid y pridd.

Ac yno yn y dyffryn tawel
Mi glywaf gân yn sŵn yr awel
A neges hud y geirie
Yn hedfan dros y brynie;
Tyrd, Ysbryd y Nos.

Ysbryd y Nos, tyrd yma′n awr,
Gwasgara'r ofnau cyn daw′r wawr;
Diffodd y t'wyllwch, tyrd a′r dydd:
Gad im ddod, gad im ddod yn rhydd.

Songtext kommentieren

Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Edward H. Dafis

Fan Werden

Fan von »Ysbryd Y Nos« werden:
Dieser Song hat noch keine Fans.