Songtexte.com Drucklogo

Nos Da, Mam Songtext
von Steve Eaves

Nos Da, Mam Songtext

Fy mrawd a mi yn ein gwlâu bach clyd
A′r gwynt a'r glaw yn chwipio′r byd,
A llygid mam a'i gwên dawel hi
A Huwcyn Cwsg sy'n gwylio ni.

Nos da Mam, nos da Mam,
Mi wela i chdi yn fy mreuddwyd i,
Nos da Mam.


Mae′r bochdew bach yn ei nyth blawd llif
Yn edrach ymlaen at gael mwythau gen i,
Mae′r beiciau yn y cwt, Twm y ci yn y tŷ,
Toes na unman gwell na tŷ ni ar nos Sul.

Nos da Mam, nos da Mam,
Mi wela i chdi yn fy mreuddwyd i,
Nos da Mam.

Dwi'n clywad Dad yn rhoi coed ar y tân
A dwi′n swatio'n dynn wedi blino′n lân.

Nos da Mam, nos da Mam,
Mi wela i chdi yn fy mreuddwyd i,
Nos da Mam.

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Steve Eaves

Quiz
Wer ist gemeint mit „The King of Pop“?

Fans

»Nos Da, Mam« gefällt bisher niemandem.