Songtexte.com Drucklogo

Uno, Cydio, Tanio Songtext
von Sŵnami

Uno, Cydio, Tanio Songtext

Yn dawel bach
Mae′r dyddiau dal i lifo
I gyd yr un fath,
Yn aros tan bo'r llanw′n cilio
Ond wedi'r cur, wedi'r holl ffarwelio
Buan daw y golau ′nôl,
Buan daw o i gyd yn ôl

I′n huno cydio, tanio
Daw'r darnau nôl fel un,
Fel uno, cydio, tanio
Daw′r darnau nôl fel un.

Gweld y byd
Ond 'mond drwy lygaid camera
Yn curo llaw
I foddi sŵn yr holl gelwyddau
Ond a fydd aur
Yr ochr draw i′r enfys?
Pryd y daw y golau 'nôl,
Pryd y daw o i gyd yn ôl?


I′n huno cydio, tanio
Daw'r darnau nôl fel un,
Fel uno, cydio, tanio
Daw'r darnau nôl fel un.

Ond wrth edrych ′mlaen
Fyddwn ni′n gweld y gwerth
Neu'n sownd yr un lle ag o′r blaen?
Heb nod
Yn dyheu am osod y darnau nôl fel un.

Dyma'r amser
I ailddarganfod y byd
Cyfle newydd
Wrth i′r lleisiau ddod ynghyd

Uno, cydio, tanio
Daw'r darnau nôl fel un,
Uno, cydio, tanio
Daw′r darnau nôl fel un.
Uno, cydio, tanio
Daw'r darnau nôl fel un,
Uno, cydio, tanio
Daw'r darnau nôl fel un.


Ond wrth edrych ′mlaen,
Fyddwn ni′n gweld y gwerth
Neu'n sownd yr un lle ag o′r blaen?
Heb nod
Yn dyheu am osod y darnau nôl fel un.

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Sŵnami

Quiz
Wer singt über den „Highway to Hell“?

Fans

»Uno, Cydio, Tanio« gefällt bisher niemandem.