Songtexte.com Drucklogo

Cynnydd Songtext
von Sŵnami

Cynnydd Songtext

Methu deall pam fod pawb
Yn meddwl bod nhw′n rhan o'r llun
Ti′n dal yn ôl yn deud dim byd
Ti'n dal yn ôl, ti'n dal yn ôl

Yr eira dynnodd sylw at
Y gwreiddiau ddaeth o′r oes a fu
Does dim o′i le mond tyfu'n hen
A nabod pawb a nabod neb

Er fod popeth i′w weld
I symud yn ei flaen
Does bosib nad wyt ti'n anghofio yr hyn o ti′n ddeud
Di clywed hyn o'r blaen
Mae′n ddrwg gen i ddeud mod i wedi'th rybuddio

Mae sylw'n gallu troi yn ffaith
Sy′n newid egwyddorion rhai
Dim fel o′r blaen doedd dim o'i le
Dim fel o′r blaen
Dim fel o'r blaen


Ydi′r freuddwyd dal yn glir?
Y lliwiau amwys heb ddim ffin
Mae troi i ffwrdd yn haws i rai
Sy'n gwrthod derbyn nhw di′r bai

Er fod popeth i'w weld
Yn symud yn ei flaen
Does bosib nad wyt ti'n anghofio yr hyn o ti′n ddeud
Di clywed hyn o′r blaen
Mae'n ddrwg gen i ddeud mod i wedi′th rybuddio

Cofio nôl, cofio nôl, cofio nôl beth oedd yn bod
Beth oedd yn bod, beth oedd yn bod
Dwi'n cofio nôl, dwi′n cofio nôl, dwi'n cofio nôl
Cofio nôl, cofio nol, cofio nol beth oedd yn bod
Beth oedd yn bod, beth oedd yn bod
Dwi′n cofio nôl, dwi'n cofio nôl, dwi'n cofio
Tra ti′n troi yn ôl, troi yn ôl, troi yn ôl, troi yn ôl
Troi yn ôl, troi yn
Tra ti′n troi yn ôl, troi yn ol, troi yn
Tra ti'n troi yn ôl, troi yn ôl, troi yn ôl, troi yn ôl
Troi yn ôl, troi yn
Tra ti′n troi yn ôl, troi yn ôl, troi yn ôl


Cofio meddwl, cofio meddwl bod dim byd o'i le
Ond erbyn hyn
Erbyn hyn dwi′n meddwl mod i'n difaru
Er fy mod i
Dwi′n dal i ddeud, dwi'n dal i ddeud bod pethau'n newid
Er gwell er gwaeth dim ond amser sydd yn gallu rheoli
Beth ddaw ohoni

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Sŵnami

Quiz
In welcher Jury sitzt Dieter Bohlen?

Fans

»Cynnydd« gefällt bisher niemandem.