Songtexte.com Drucklogo

Gorwedd Gyda'i Nerth Songtext
von Eden

Gorwedd Gyda'i Nerth Songtext

Mae na ddiwrnod arall wedi darfod
Minnau eto′n methu'n lân â gwybod
Pam yn y byd ein bod ni gyd yma nawr
Be di′r rheswm, be sy'n mynd i newid?
Dim ond duwiau a'r gwallgo sydd yn symud
Môr a mynyddoedd mawr

Ond fe ddaw o rywle pell
Rhyw deimlad yn ôl
Teimlad sy mor wir a chry
Ac yna daw′r gallu nôl
I wybod ei werth
Nabod ei gryfder, gorwedd gyda′i nerth
Gweld ei olau yn glir
Cyffwrdd â grym yr hyn sy'n gariad pur


Rhywle mae na rywun heno′n crio
Ond mae breichiau un yn dynn amdano'n
Cymryd y baich, yn rhannu ei ddagrau i gyd
Ac yn rhywle arall mae edrychiad
Eto′n dal yn gadarn yn y teimlad
Heno sy'n troi eu byd

Pethe sydd o ddydd i ddydd yn gwylio bob cam
A gymrwn ar y siwrne hon
Ac eto dwi′n deall pam
Dwi'n gwybod ei werth
Nabod ei gryfder, gorwedd gyda'i nerth
Gweld ei olau yn glir
Cyffwrdd â grym yr hyn sy′n gariad pur

O! Dwi′n gwybod ei werth
Nabod ei gryfder, gorwedd gyda'i nerth
Gweld ei olau yn glir
Cyffwrdd â grym yr hyn sy′n gariad pur

Dwi'n gwybod ei werth
Nabod ei gryfder, gorwedd gyda′i nerth
Gweld ei olau yn glir
Cyffwrdd â grym yr hyn sy'n gariad pur

Dwi′n gwybod ei werth
Nabod ei gryfder, gorwedd gyda'i nerth
Gweld ei olau yn glir
Cyffwrdd â grym yr hyn sy'n gariad pur


O! Dwi′n gwybod ei werth
Nabod ei gryfder, gorwedd gyda′i nerth
Gweld ei olau yn glir
Cyffwrdd â grym yr hyn sy'n gariad pur

Dwi′n gwybod ei werth
Nabod ei gryfder, gorwedd gyda'i nerth
Gweld ei olau yn glir
Cyffwrdd â grym yr hyn sy′n gariad pur

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Eden

Fans

»Gorwedd Gyda'i Nerth« gefällt bisher niemandem.