Songtexte.com Drucklogo

Ffydd Songtext
von Dienw

Ffydd Songtext

Ti′n mwydro dy hun i gysgu bron bob dydd.
Mynd lawr i ebargofiant i ddarganfod ryw ffydd
Ond 'di Duw ddim digon da i chdi
′Nei di'm ffeindio crefydd ar ben dy hun.

Rhwyga'r rhaffau
Pyla′r sain
Doedd ′na neb yn dy garu nes bod chdi'n ugain.
Cysur hallt
A chenfigen hysain
Ti′n gwerthu dy hun fel celfyddyd gain


Dan gadarn goncrit ma' pawb yn chwerthin arna chdi
Ti ′di disgyn eto
Ti 'di landio′n mreichiau rhywun
Ond ti'm yn siŵr os ma' nhw′n keen
Neu jest ar ben eu hun.

Dos am dro drwy atgofion ffôl
Teimladau hwyrnos sy′n dy dynnu di nôl
Disgwyl dy dro er mwyn mynd o dy go'
Y gofid gwag sy′n dy gadw di'n effro.

Dos am dro drwy atgofion ffôl
Teimladau hwyrnos sy′n dy dynnu di nôl
Disgwyl dy dro er mwyn mynd o dy go'
Ti′n colli ffydd eto, ac eto.

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Quiz
Wer ist auf der Suche nach seinem Vater?

Fans

»Ffydd« gefällt bisher niemandem.