Songtexte.com Drucklogo

Dim Deddf, Dim Eiddo Songtext
von Datblygu

Dim Deddf, Dim Eiddo Songtext

Dim deddf, dim eiddo
Dim deddf, dim eiddo
Dim deddf, dim eiddo
Dim deddf, dim eiddo

Hwnna meddyliodd pethau mawr iawn am yr iaith Gymraeg
Tra′n darllen Proust dros ei swper porc a thatws
Roedd yn aros am y tro nesa mewn parti canapé champagne fflat
Bydde fe digon ar ddihun i osgoi gwneud ffŵl o'i hun
Tra′n trafod arddulliau llymdod Saunders Lewis
Gyda dyn mewn cravat
Byddai'n ysu i gnychu gwraig y dyn fyddai'n eistedd gyferbyn

Dim deddf, dim eiddo
Dramateiddio (Dim deddf, dim eiddo)
Rhwng y sgrwbio a′r sgriwio (Dim deddf, dim eiddo)
Yr yfed a′r ciwio (Dim deddf, dim eiddo)


Honna mynodd ar bob cyfrif
Ysgrifennu ei sieciau yn uniaith Gymraeg
Hi oedd Sipsi un wythnos y flwyddyn, carafan drud
Tra roedd ei phlant Eurgain a Dan Anfantais
Yn indiaid coch y maes pebyll
Roedd yn gweld y byd trwy gyfrwng sleidiau
Noson goffi gwan Merched yr Oriawr

Dim deddf, dim eiddo
Dramateiddio (Dim deddf, dim eiddo)
Rhwng y sgrwbio a'r sgriwio (Dim deddf, dim eiddo)
Yr yfed a′r ciwio (Dim deddf, dim eiddo)

A fi, rwy'n anwybyddu bob pwll pêl-droed
Y pybs a′r farchnad stoc
Rwy'n gweld Richard Pitman am beth yw e a dweud
"Diolch yn fawr, Mam Natur
Rwyf yn ddiolchgar nad oes gen i wraig gormesol
Sy′n credu yn y siop slop persawr ugain punt y smotyn"
Ond rwy'n cofio nhw'n bloeddio "Deddf Eiddo"
A meddwl na fyddwn yn ei charu hi eto


Dim deddf, dim eiddo
Dramateiddio (Dim deddf, dim eiddo)
Rhwng y sgrwbio a′r sgriwio (Dim deddf, dim eiddo)
Yr yfed a′r ciwio (Dim deddf, dim eiddo)
Dim deddf, dim eiddo
Dim deddf, dim eiddo
Dim deddf, dim eiddo
Dim deddf, dim eiddo
Dim deddf, dim eiddo
Dim deddf, dim eiddo
Dim deddf, dim eiddo
Dim deddf, dim eiddo

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Datblygu

Fans

»Dim Deddf, Dim Eiddo« gefällt bisher niemandem.