Cân i Gymry Songtext
von Datblygu
Cân i Gymry Songtext
Gradd da yn y Gymraeg
Ar y Volvo, bathodyn Tafod y Ddraig
Hoff o fynychu pwyllgorau blinedig
Am ddyfodol yr iaith, yn enwedig
Meistroli iaith lleiafrifol fel hobi
Platiau dwyieithog i helpu′r gyrru
Agwedd cwbl addas ar gyfer cynllun cartre
Sydd mas o set Dinas
Wastad yn mynd i Lydaw
Byth yn mynd i Ffrainc
Wastad yn mynd i Wlad y Basg
Byth yn mynd i Sbaen
Fin nos yn mynychu bwytai
Wedi dydd ar y prosesydd geiriau
Mewn swydd sy'n talu′r morgais
I'ch gwyneb person cwbl cwrtais
O'r ysgol feithrin i Brifysgol Cymru
Tocyn oes ar y trên grefi
Byddai′n well da fi fod yn jynci
Na bod mor wyrdd â phoster Plaid Cymru
Darnau gosod yr Ŵyl Gerdd Dant
A holl broblemau′r ddau o blant
Gwersi telyn Llinos Wyn
A phroblem acne Llywarch Glyn
Heb anghofio codi stŵr
Am straen angheuol job y gŵr
Mae'n gorfod gweithio 1:00 tan 3:00
Yn gynhyrchydd BBC
Llosgwch eich tafodau ar eich panedi piwritanaidd
Collwch eich dynoliaeth mewn economeg academaidd
Enwch gyfeillion sy′n enwogion, gyd o'r Seiri Rhyddion
Trafodwch tapiau corau meibion a′r eitemau sy' ar Hel Straeon
Rhifau cynulleidfa′r oedfa
Pha liw yw lenni'r lolfa
Tiwtoriaid preifat i helpu'r plant
Neuadd Dewi Sant
Digon o wyliau i gynnal lliw haul
Digon wrth-Brydeinig i swnio fel Sieg Heil
Digon wrth-Brydeinig i swnio fel Sieg Heil
Meistroli iaith lleiafrifol fel hobi
Dweud fod Cymru′n cael ei orthrymu
Er fod eich ceir â′r sticyrs Tafod y Ddraig
Cawsoch gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Ar y Volvo, bathodyn Tafod y Ddraig
Gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Ar y Volvo
Bla bla bla that's done
Ar y Volvo, bathodyn Tafod y Ddraig
Hoff o fynychu pwyllgorau blinedig
Am ddyfodol yr iaith, yn enwedig
Meistroli iaith lleiafrifol fel hobi
Platiau dwyieithog i helpu′r gyrru
Agwedd cwbl addas ar gyfer cynllun cartre
Sydd mas o set Dinas
Wastad yn mynd i Lydaw
Byth yn mynd i Ffrainc
Wastad yn mynd i Wlad y Basg
Byth yn mynd i Sbaen
Fin nos yn mynychu bwytai
Wedi dydd ar y prosesydd geiriau
Mewn swydd sy'n talu′r morgais
I'ch gwyneb person cwbl cwrtais
O'r ysgol feithrin i Brifysgol Cymru
Tocyn oes ar y trên grefi
Byddai′n well da fi fod yn jynci
Na bod mor wyrdd â phoster Plaid Cymru
Darnau gosod yr Ŵyl Gerdd Dant
A holl broblemau′r ddau o blant
Gwersi telyn Llinos Wyn
A phroblem acne Llywarch Glyn
Heb anghofio codi stŵr
Am straen angheuol job y gŵr
Mae'n gorfod gweithio 1:00 tan 3:00
Yn gynhyrchydd BBC
Llosgwch eich tafodau ar eich panedi piwritanaidd
Collwch eich dynoliaeth mewn economeg academaidd
Enwch gyfeillion sy′n enwogion, gyd o'r Seiri Rhyddion
Trafodwch tapiau corau meibion a′r eitemau sy' ar Hel Straeon
Rhifau cynulleidfa′r oedfa
Pha liw yw lenni'r lolfa
Tiwtoriaid preifat i helpu'r plant
Neuadd Dewi Sant
Digon o wyliau i gynnal lliw haul
Digon wrth-Brydeinig i swnio fel Sieg Heil
Digon wrth-Brydeinig i swnio fel Sieg Heil
Meistroli iaith lleiafrifol fel hobi
Dweud fod Cymru′n cael ei orthrymu
Er fod eich ceir â′r sticyrs Tafod y Ddraig
Cawsoch gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Ar y Volvo, bathodyn Tafod y Ddraig
Gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg
Gradd da yn y Gymraeg
Ar y Volvo
Bla bla bla that's done
Writer(s): David R Edwards (prs) Lyrics powered by www.musixmatch.com