Songtexte.com Drucklogo

Am Songtext
von Datblygu

Am Songtext

Am y geiriau crap fel Cnapan
Am yr eisteddfodau dafarn
Am fy hun yn gwylio′r cloc
Am yr hagrwch opera roc

Am y grwpiau sy' ar daith
Am fy rhagfarnau′n mynd yn waeth
Am y merched sa'i di cael
Am y linell uchod wael

A dyma pam rwy'n smygu
Ac yn ysgrifennu
Ar fy ngwibdaith o gwmpas bwced

Am y crap mewn dillad celf
Am y dwli drama gerdd
Am fod dawnsio mor uffernol
A jôc mawr yw pob dyfodol


Sai′n gwybod pam rwy′n cario 'mlaen
Na, rwy′n gwybod pam rwy'n cario ′mlaen
Y gobaith o weld cantorion Calon Lân
Yn cael eu toddi i saim

A dyma pam rwy'n smygu
Ac yn ysgrifennu yn lle pydru
Ar fy mordaith mewn bwced

Am yr un nath sgrewio Mair
Am fod cymdeithas ond yn ffair
Am eich cariadon ac am chi
Am y profiadau sy′n fy ngladdu

Ti'n gwybod pam rwy'n cario mlaen
Na, rwy′n gwybod pam rwy′n cario mlaen
Y gobaith o weld cantorion Calon Lân
Yn cael eu toddi i saim

A dyma pam rwy'n smygu
Ac yn ysgrifennu
Ar fy ngwibdaith o gwmpas bwced

Pob noson Haf a melys
Chwiliais am yr esgus
I adael rhai′n anadlu
Jetzt Songtext hinzufügen

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Datblygu

Quiz
Wer will in seinem Song aufgeweckt werden?

Fans

»Am« gefällt bisher niemandem.