Songtexte.com Drucklogo

Rosi Songtext
von Ciwb

Rosi Songtext

Rosi cwsg yn dawel
Rosi cwsg mewn hedd
Yna daw mieri i dyfu dros dy fedd

Mae dy gorff yn llonydd
Glyd o dan y ddôl
Ni ddaw neb i′th ddeffro
Does dim neb ar ôl

Does dim neb ar ôl i weld y wylan ar y traeth
Does dim pobl yma i weled ôl dy waith

Rosi cau dy lygaid
Paid â wylo mwy
Colli un cenhedlaeth
Gwell na cholli dwy


A sneb yn malu awyr
Does dim siarad ffôl
Does dim neb i ddadlau
Does dim neb ar ôl

Does dim neb ar ôl i weld y wylan ar y traeth
Does dim pobl yma i weled ôl dy waith
Does dim neb ar ôl i weld y wylan ar y traeth
Does dim pobl yma i weled ôl dy waith

Rosi does 'na neb ar ôl i gario ′mlaen
Dim ond sŵn y môr a'r awel rhwng y drain
Anodd yw credu, Rosi creda fi
Mai dim ond byw i farw oeddem ni
Oeddem ni

Rosi does 'na neb ar ôl i gario ′mlaen
Dim ond sŵn y môr a′r awel rhwng y drain
Anodd yw credu, Rosi creda fi
Mai dim ond byw i farw oeddem ni
Oeddem ni

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Quiz
„Grenade“ ist von welchem Künstler?

Fans

»Rosi« gefällt bisher niemandem.