Songtexte.com Drucklogo

Ofergoelion Songtext
von Ciwb

Ofergoelion Songtext

Proffwydoliaeth freuddwydiol dail te
A darogan gwae y trydydd ar ddeg
Ofergoelion, ofergoelion, dy′n nhw'n ddim byd ond ofergoelion

Fe ddaw Madam Sera i ddeud be ′di be
'Nôl patrymau y sêr yn y ne'
Ofergoelion, ofergoelion, ofergoelion

Ond dwi′m yn credu′r hen gredoau
Fod a wnelo'r sêr a′r duwiau
A tynged chdi a finnau yn y byd
Credaf mewn rhagluniaeth nid ofergoelion

Er nad oes rhychau dwfn ar gledr fy llaw
Peidiwch codi'n fy nghalon run braw
Ofergoelion, ofergoelion, dy′n nhw'n ddim byd ond ofergoelion

Peidiwch edrych fewn i′r belen fawr gron
I chwilio'r pethau ddaw i'm rhan brudd a llon
Ofergoelion, ofergoelion, ofergoelion


Ond dwi′m yn credu′r hen gredoau
Fod a wnelo'r sêr a′r duwiau
A tynged chdi a finnau yn y byd
Credaf mewn rhagluniaeth nid ofergoelion
Nid ofergoelion

Âi tref Caerfyrddin dan y don pe syrthiai'r dderwen oedd y sôn
Ond deil yn sych er torri′r goeden yn y bôn
Ofergoelion, ofergoelion, dy'n nhw′n ddim byd ond ofergoelion

Beth yw'r ots petai y tarw a'r pysgodyn yn cyd-gwrdd?
Beth yw′r ots os aiff y cranc i gylch yr hwrdd?
Ofergoelion, ofergoelion, ofergoelion

Ond dwi′m yn credu'r hen gredoau
Fod a wnelo′r sêr a'r duwiau
A tynged chdi a finnau yn y byd
Credaf mewn rhagluniaeth nid ofergoelion
Ond dwi′m yn credu'r hen gredoau
Fod a wnelo′r sêr a'r duwiau
A tynged chdi a finnau yn y byd
Credaf mewn rhagluniaeth nid ofergoelion
Nid ofergoelion
Nid ofergoelion

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Fans

»Ofergoelion« gefällt bisher niemandem.