Songtexte.com Drucklogo

Dienw Songtext
von Ciwb

Dienw Songtext

Gwela fudr bridd y bedd yn pydru corff fy mrawd
Gwranda ddwndwr bomia brwnt dros erwau gwyrdd ein gwlad
Gwela waed di-euog lu′n gwaedu drostom, ti a fi

Edrych ar yr afon wen yn llifo'n afon goch
Gwrando ar y gwatwar llym a′r gweiddi creulon croch
Ceisia gyda'th ddwylo di ddatod cwlwm angau du


Gwêl dy gyd-ddyn celain mud
Yn cau ei lygaid ar y byd
O'i frwydr dyddiol aeth yn rhydd

Gwêl dy gyd-ddyn celain mud
Yn cau ei lygaid ar y byd
O′i frwydr dyddiol aeth yn rhydd

Nid dy fai di-euog di, brad dy frawd a′th laddodd
Sglyfath wyt i'r milain fyd, brad dy frawd a′th laddodd
Llethu mae marwolaeth mud, cyrff ar gyrff heb le'n y byd

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Quiz
Welcher Song kommt von Passenger?

Fans

»Dienw« gefällt bisher niemandem.