Che Guevara Songtext
von Ciwb
Che Guevara Songtext
Mae gen i frawd, mae o′n frawd i ni gyd
Mae o'n byw ar ei nerfau, mae o′n sgwennu cerddi
Mae gen i lun ohono'n sbio drwy ffenest
Mae o'n syllu i′r nos yn chwilio am rywbath
A neshi sgriblo ar ffoto
Mwstash a beret mewn beiro
Rŵan ma′n edrych yn debyg i Che Guevara
Mae gen i chwaer, mae ei gwallt yn goch
Mae hi'n gyfrol o gerddi, mae hi′n chwaer i chditha
Dwi'n cofio gweld hi drwy ffenest y caffi
Roedd hi′n trafod y frwydr, roedd hi'n gwisgo beret
A trwy y glaw ar y ffenest, a′r stêm o'r cownter
Roedd hi'n edrych yn debyg i Che Guevara
Maen nhw′n deud bod y ddau yn naive
Hefo gormod o ffydd yn y natur ddynol
Ond dwi′n gwybod 'mod i isho cerdded
Lle ma nhw yn cerdded, hyd yr union ′run llwybr
A dyna'r gwir amdani, maen nhw′n dal i ganu
Da ni'n gweld y rhosod yn tyfu o′r difrod
Dyma fynyddoedd Cymru, nid y Sierra Maestra
Ond i mi ma nhw'n debyg i Che Guevara

Writer(s): Steve Eaves Lyrics powered by www.musixmatch.com