Songtexte.com Drucklogo

Neb Arall Songtext
von Celavi

Neb Arall Songtext

Oni′n meddwl bo' chdi′n berson gwahanol
Meddwl bo' gen ti amser i roi i mi
Erbyn hyn mae'n mynd yn fwy a fwy amlwg
Yr unig beth sy′n bwysig i chdi ′di chdi

Byth eisiau siarad am ddim byd ond me, me, me
Byth eisiau clywed am ddim byd ond me, me, me

Pan fydd y byd yn mynd yn boen
Bob dim yn mynd o dan dy groen
Siŵr wnei di gofio amdana fi
A dyfaru 'chos does na neb fel fi

Oni′n meddwl bo' chdi′n berson gwahanol
Meddwl bo' fi′n rhywbeth i chdi
Erbyn hyn mae'n mynd fwy a fwy amlwg
Fyddai byth yn berson digon da i chdi

Yr unig sy'n bwysig i chdi ′di me, me, me
Wnei di weld yn fuan does na neb fel fi, fi, fi


Pan fydd y byd yn mynd yn boen
Bob dim yn mynd o dan dy groen
Siŵr wnei di gofio amdana fi
A dyfaru ′chos does na neb fel fi

Tro hon yn uchel i chdi glywed fi, fi, fi
Tro hon yn uchel i chdi glywed fi, fi, fi
Byth eisiau siarad am ddim byd am me, me, me
Wnei di weld yn fuan does na neb fel fi, fi, fi

Pan fydd y byd yn mynd yn boen
Bob dim yn mynd o dan dy groen
Siŵr wnei di gofio amdana fi
A dyfaru 'chos does na neb fel fi
Byth yn gyntaf ail ddewis gan chdi
Wedi bod rhy hir yn dy gysgod di
Be am i mi ailadrodd hyn i chdi
Does na neb, does na neb, does na neb fel fi

Na fydda chdi byth yn barod am fi, fi, fi
Nawr mae′n amser deud rhy hwyr
Ffwrdd a chdi, chdi, chdi

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Quiz
Wer ist auf der Suche nach seinem Vater?

Fans

»Neb Arall« gefällt bisher niemandem.