Songtexte.com Drucklogo

Haws i’w Ddweud Songtext
von Bwncath

Haws i’w Ddweud Songtext

′Dw i 'di ista yng ngwaelod pydew du fy nghalon i
Yn syllu lle bu′r goelcerth gynt yn llosgi
A'r hyn o goed oedd gen i ar ôl
'di gwlychu yn y stormydd
A′r rheiny yn ailgychwyn yn dragywydd

′Dw i 'di treulio oria′ maith yn ceisio cynna'r tân
Heb ddim ond dagrau poeth o wreichion mân
Ond chdi ddoth draw fel haul ′rôl glaw
A sychu wnaeth y coed
A'r tân sy′n llosgi fwy na 'rioed

Ond mae'n haws i′w ddweud nac ydi o′i wneud
I afael yn dy law
A'r gwyntoedd sy′n fy erbyn i
Yn chwythu yma a thraw
Ma' ′na dywydd gwell ar y gorwel pell
Tu hwnt i'r gwynt a′r glaw
Dy ola' sy'n fy arwain i
I′r dyddia′ gwyn a ddaw


O'n i′n teimlo weithia' mod i′n dechra' colli ffydd
A hynny yn dibynnu ar y tywydd
Ond chdi ddoth draw fel haul ′rôl glaw
A sychu wnaeth y coed
A'r tân sy'n llosgi′n fwy na′r 'rioed

Ond mae′n haws i'w ddweud nac ydi o′i wneud
I afael yn dy law
A'r gwyntoedd sy′n fy erbyn i
Yn chwythu yma a thraw
Ma' 'na dywydd gwell ar y gorwel pell
Tu hwnt i′r gwynt a′r glaw
Dy ola' sy′n fy arwain i
I'r dyddia′ gwyn a ddaw

Ond mae'n haws i′w ddweud nac ydi o'i wneud
I afael yn dy law
A'r gwyntoedd sy′n fy erbyn i
Yn chwythu yma a thraw
Ma′ 'na dywydd gwell ar y gorwel pell
Tu hwnt i′r gwynt a'r glaw
Dy ola′ sy'n fy arwain i
I′r dyddia' gwyn a ddaw
Dy ola' sy′n fy arwain i
I′r dyddia' gwyn a ddaw

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Quiz
Welche Band singt das Lied „Das Beste“?

Fans

»Haws i’w Ddweud« gefällt bisher niemandem.