Songtexte.com Drucklogo

Haleliwia Songtext
von Brigyn

Haleliwia Songtext

Mewn dwrn o ddur mae′r seren wen
Mae cysgod gwn tros Bethlehem
Dim angel gwyn yn canu Haleliwia.
Codi muriau, cau y pyrth
Troi eu cefn ar werth y wyrth
Mor ddu yw'r nos ar strydoedd Palesteina.

Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.


Mae weiran bigog gylch y crud
A chraith lle bu creawdwr byd
Mae gobaith yno′n wylo ar ei glinia'
A ninnau'n euog bob yr un
Yn dal ei gôt i wylio′r dyn
Yn chwalu pob un hoel o Haleliwia.

Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.

Mae′r nos yn ddu mae'r nos yn hir
Ond mae na rai sy′n gweld y gwir
Yn gwybod fod y neges mwy na geiria'
Mai o′r tywyllwch ddaw y wawr
A miwsig ddaeth â'r muriau lawr
Daw awr i ninnau ganu Haleliwia.

Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Fans

»Haleliwia« gefällt bisher niemandem.