Songtexte.com Drucklogo

Llongau Caernarfon Songtext
von Sobin a’r Smaeliaid

Llongau Caernarfon Songtext

Mae′r holl longau ar y cei yn llwytho
Pam na chaf i fynd fel pawb i forio?
Dacw dair yn dechrau warpio
Ac am hwylio heno
I Birkinhead, Bordo a Wiclo

Toc daw'r stemar bach i′w towio
Golau coch ar waliau wrth fynd heibio

Llongau'n mynd a dod a llongau'n canlyn
Heddiw, fory ac yfory wedyn
Mynd a′u llwyth o lechi gleision
Dan eu hwyliau gwynion
Rhai i Ffrainc a rhai i′r Werddon


Toc daw'r stemar bach i′w towio
Golau gwyrdd ar waliau wrth fynd heibio

Pam na chaf i fynd yn llongwr
Ar holl longau yn llwytho yn yr harbwr?

Holaf ym mhob llong ar hyd yr harbwr
'Oes ′na le i hogyn fynd yn llongwr?
A chael spleinsio rhaff a rhiffio?
A chael dysgu llywio?
A chael mynd mewn cwch i sgwlio?'

O pam na chaf i fynd yn llongwr
Ar holl longau yn llwytho yn yr harbwr?

Ie pam na chaf i fynd ar f′union
Dros y môr a hwylio yn ôl i G'narfon
Yn ol ôl i G'narfon, yn ôl i G′narfon
Yn ôl i G′narfon

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von Sobin a’r Smaeliaid

Quiz
„Grenade“ ist von welchem Künstler?

Fans

»Llongau Caernarfon« gefällt bisher niemandem.