Songtexte.com Drucklogo

Chwara' Hi'n Saff Songtext
von I Fight Lions

Chwara' Hi'n Saff Songtext

Hen ddyn mewn tafarn
Digon parod i rannu ei farn
Ar ôl drinc neu dri, ei dafod yn llithrig
Yn baglu trwy rhyw ddarlith chwithig
"O dwi'n hiraethu
Am y dyddia aur a fu
Pan oedd bandia ddim yn benwan
Ond cantorion 'fo rhywbeth call i ddeud


Rwan mae pawb yn ddistaw, pawb yn chwara' hi'n saff
Does neb yn gwneud dim i ddatod y cwlwm dolen yn y rhaff
O mae pawb yn ddistaw, pawb yn chwara' hi'n saff
A ma' popeth yn newid pan ma popeth yn aros 'r'un fath"

Hen ddyn dal i fynd
Yn llyncu gwaelodion ei chweched peint
Ei fraich rownd fy 'sgwydda, ei wynt yn fy ngwyneb
Mae fy nadl yn disgyn ar glustiau byddar
"Gwranda, ti rhy ifanc i gofio
Yr amser pan oedd cynulleidfaoedd
Yn canu 'mlaen i ganeuon
Gan gantorion 'fo rhywbeth call i ddeud

Ma' pawb yn swnian, ma' pawb yn swnian fod pawb yn swnio r'un fath
Ond ella, ella trwy glustiau gwell gall glywed y gwall yn y ddadl 'ma


Paid beio busnesa am ladd unrhyw gath
Nid chwilfrydedd nath ond diflastod tra bod popeth yn aros r'un fath

Songtext kommentieren

Log dich ein um einen Eintrag zu schreiben.
Schreibe den ersten Kommentar!

Beliebte Songtexte
von I Fight Lions

Fans

»Chwara' Hi'n Saff« gefällt bisher niemandem.